Bahá'í Library Online
. . . .
.
>>   Essays and short articles Introductory
TAGS: Introductory
> add tags
Abstract:
Welsh introduction to the Bahá'í Faith.
Notes:
This is a Welsh version of Bahá'í Faith: What Is It?
Language: Welsh.

Cyflwyno'r Ffydd:
Warwick Leaflets

by Warwick Bahá'í Bookshop

1993
Mae sawl miliwn o bobl yn y byd yn dilyn crefydd y Ffydd Bahá'í, a'r rheiny'n dod o bob gwlad a phob cefndir. Mae'r bobl hyn i gyd yn credu yn undod y ddynoliaeth - bod pob person yn bwysig, ac y dylai'r byd fod yn un wlad a redir er lles pawb.
  • Maent yn credu mai'r gwahaniaeth rhyngom sy'n gwneud bywyd yn ddiddorol ac y dylem goleddu'r gwahaniaethau hyn yn hytrach na'u hanwybyddu.
  • Maent yn credu mai dim ond un crefydd fu erioed - sef crefydd Duw. Anfonodd Duw Ei Negeswyr i wahanol lefydd ar wahanol adegau fel bo modd i bawb yn y byd glywed Amdano.
  • Mae pobl Bahá'í yn credu mai dim ond un Duw sydd, er bod gan bobl wahanol enwau Arno. Ni allwn fyth Ei 1wyr ddeall; ni allwn ond dysgu Amdano trwy gyfrwng Ei greadigaeth a'i Negeswyr.
  • Mae pobl Bahá'í yn dilyn Bahá'u'lláh, y diweddaraf mewn cyfres hir o Negeswyr a anfonwyd gan Dduw i ddweud wrthym sut i fyw ac ymddwyn. Ystyr yr enw Bahá'u'lláh yw Gogoniant Duw. Er Iddo fynd i'r byd nesaf ychydig dros gan mlynedd yn ol, ysgrifennodd Bahá'u'lláh bopeth y m'ae angen i ni wybod ynglyn a sut i greu gwell bywyd yma ar y ddaear ac yn y byd a ddaw.
  • Mae pobl Bahá'í yn credu bod Crist, Muhammad, Buddha, Moses a Krishna i gyd yn Negeswyr gan Dduw.
  • Yr un neges sylfaenol oedd gan y Negeswyr hyn i gyd - sef y dylem garu Duw a charu'n gilydd, y dylem fod yn onest, yn eirwir, yn garedig, yn bobl y gellir ymddiried ynddynt ac yn ddiymhongar. Dim ond eu dysgeidiaeth gymdeithasol oedd yn wahanol: a'r rheswm am hyn oedd eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer amser a lle penodol. Gan ein bod ni bellach yn rhan o gymdeithas fydeang, mae angen cyfreithiau newydd.
  • Addawodd pob un o'r Negeswyr hyn y deuai adeg pan fyddai Negesydd o bwys un dod i ddwyn heddwch i'r byd i gyd. Mae pobl Bahá'í yn credu mai Bahá'u'lláh oedd y Negesydd hwnnw ac mai rwan yw'r amser i gael heddwch.

CYFLWR Y BYD

Mae pobl Bahá'í yn poeni'n fawr am gyflwr ein byd. Maent yn teimlo bod angen i ni gael agwedd fwy ysbrydol, llai hunanol tuag at y byd hwn a bod angen i ni fyw mewn harmoni a'n hamgylchedd. Lle bynnag y bydd pobl Bahá'í yn byw, byddant yn ceisio cynorthwyo pobl ym mha fodd bynnag y gallant. Os ydyn nhw'n byw mewn pentref yn y Trydydd Byd, byddant yn trefnu prosiect ysgol, ffermio neu iechyd a fydd o fudd i bawb. Ym mhob gwlad mae sawl ffordd y gall y Bahá'í fod yn ddefnyddiol.
Yn anad dim, mae pobl Bahá'í yn gwneud popeth yn eu gallu i hyrwyddo heddwch yn y byd - trwy ymuno a grwpiau eraill a'u cefnogi a chynnig eu syniadau hwy eu hunain ar gyfer cynhadledd heddwch ryngwladol. Dim ond pan fydd gennych heddwch a chydweithrediad y bydd modd datrys nifer fawr o broblemau'r byd.

BYWYD BOB DYDD

Bob dydd, dylai dilynwyr y ffydd Bahá'í droi at Dduw mewn gweddi. Bob bore a bob gyda'r nos, dylent ddarllen ysgrythu- rau Bahá'í, myfyrio arnynt a cheisio'u rhoi ar waith.

Mae nifer o lyfrau'n cynnwys ysgrythur Bahá'í ond dyma ychydig o enghreifftiau ohonynt:

" Trowch eich meddyliau i gyd i gyfeiriad dod a llawenydd i galonnau."

"Ymdrechwch fel bo'ch gweithredoedd o ddydd i ddydd yn weddiau hardd"

"Peidiwch ag ystyried neb yn ddieithryn; yn hytrach, ystyriwch bob dyn yn gyfaill."

"Paid ag anadlu pechodau eraill a thithau'n bechadur dy hun."

"Meddylia bob amser am roi gwasanaeth i bob aelod o'r hil ddynol."

Efallai ei bod hi'n anodd byw yn ol dys- geidiaeth Bahá'í ond ni allwn ond gwneud ein gorau.

Trwy gyfrwng gweddi, byddwn yn dar- ganfod beth y gallwn ei wneud i wella'n hunain a gwasanaethu'n cyd-ddynion a dod o hyd i'r nerth i wneud hynny.

Cred y Bahá'í mai ein diben yn y bywyd hwn yw dysgu a datblygu fel ein bod yn nes at Dduw pan symudwn ymlaen i'r byd nesaf.

BYWYD Y GYMUNED BAHÁ'Í

Bydd pobl Bahá'í yn cyfarfod yn aml i weddio, i drafod materion lleol, i fwyn- hau cwmni ei gilydd ac i ddod i adnabod ei gilydd. Gelwir hyn yn "wledd". Lle na fydd ond ychydig o bobl y Ffydd, byddant yn cyfarfod yng nghartref rhywun. Lle bydd pentref cyfan yn bobl Bahá'í, byddant yn codi canolfan. Mewn rhai mannau yn y byd, mae Tai Addoli mawr sy'n agored i bawb beth bynnag y bo'u crefydd.

Bydd pobl Bahá'í yn aml yn cynnal cyfarfodydd bychain yn eu cartrefi i bobl sy'n dymuno dod i siarad a dysgu mwy am Grefydd Bahá'í. Fel arfer, gelwir y rhain yn "aelwydydd". Ym mhob ardal leol, bydd y Bahá'í yn ethol cynulliad o naw o bobl sy'n gwneud yn siwr bod popeth yn mynd rhagddo'n llyfn a bod pawb yn hapus. Mae gan bob gwlad gynulliad cenedlaethol a cheir un corff byd eang hefyd.

Y DYFODOL

Mae pobl Bahá'í yn credu y bydd llywodraeth fyd-eang ryw ddydd a fydd yn sicrhau bod pob gwlad yn cael ei thrin yn deg a bod y blaned yn wynebu'r dyfodol mewn cyflwr iach.

Ni fydd gwahaniaethau mawr bryd hynny rhwng y gwledydd cyfoethog a'r gwledydd tlawd, na rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd.

Bydd modd i bob plentyn yn y byd fynd i'r ysgol.

Bydd pawb yn dysgu iaith ryngwladol fel bo modd i ni ddeall ein gilydd yn well.
Bydd menywod yn cael eu trin yn gyfartal a dynion a byddant yn defnyddio'u dylanwad i ddwyn heddwch i'r byd.
Yn y pen draw, pobl y byd sy'n gorfod newid y byd. A rhaid i hynny ddechrau gyda ni'n hunain.

The text of all these leaflets remains the copyright of Warwick Bahá'í Bookshop. The Bookshop is happy for people to download individual copies for their own purposes. Printed copies can be purchased from the Warwick Bookshop. Individuals or communities wishing to translate or print these leaflets in other countries please contact the Bookshop for permission.
Back to:   Essays and short articles Introductory
Home Site Map Links Copyright About Contact
.
. .